Ganed Luke Fletcher ym Mhencoed, a mynychodd ysgol gynradd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ac Ysgol Gyfun Llanhari cyn symud i Brifysgol Caerdydd ar gyfer graddau israddedig a Gradd Meistr.
Astudiodd Luke Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ar lefel israddedig a chwblhaodd Radd Meistr yn Llywodraeth Cymru a Gwleidyddiaeth. Tra'n astudio yn y brifysgol, gweithiodd Luke mewn bar yn y sector lletygarwch am dros 4 blynedd cyn dod yn ymchwilydd economi a chyllid.
Etholwyd Luke i Gyngor Tref Pencoed ar gyfer ward Penprysg ym mis Ionawr 2019, gan drechu'r ymgeisydd Ceidwadol. Yna dewiswyd Luke i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Ogwr ac fe'i dewiswyd ar gyfer rhestr Ranbarthol Gorllewin De Cymru. Tra'n ennill y nifer uchaf o bleidleisiau ar gyfer ymgeisydd Plaid Cymru yn Ogwr ers 1999, etholwyd Luke yn Aelod o'r Senedd ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru.
Un o brif flaenoriaethau Luke yn ystod y Senedd hon yw pwyso am ddatganoli dros weinyddu lles er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi a chreu system les fwy tosturiol.
Yn ei amser hamdden, mae'n mwynhau dilyn rygbi yn ogystal â chadw'n heini.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter