AS Plaid yn galw am darpariaeth Gymraeg well ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Luke Fletcher MS yn galw ar BCBC i ddefnyddio ei bwerau wedi'u mandadu yn y Cod Derbyn i Ysgolion i sicrhau bod plant o Bencoed sy'n dymuno cael mynediad i addysg Cymraeg yn gallu gwneud hynny.

 

Ar ôl clywed apeliadau teuluoedd sy'n dymuno anfon eu plant i Ysgol Gymraeg Bro Ogwr wedi methu, tynnodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru sylw at y ffaith bod pwynt 3.5, o dan god derbyn i ysgol, yn nodi bod gan awdurdodau lleol yr hawl i newid nifer y disgyblion a dderbynnir i ysgol os oes cynlluniau ar waith i ehangu'r ddarpariaeth addysg , fel sy'n wir am Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.

Dywedodd Catrin Davies, rhiant lleol, "Rwy'n hynod siomedig gyda'r canlyniad hwn, mae wedi rhoi ein teulu mewn sefyllfa anodd. Nid ydym yn cael mynediad i'n hysgol Gymraeg leol. Mae Billy’n 4 oed ac yn cael ei ddefnyddio gan BCBC i lenwi ysgolion Cymraeg sydd wedi'u tandanysgrifio mewn ardalau eraill i gefnogi eu cyllid, nid ei gyfrifoldeb ef yw hyn. Ysgol cyfrwng Saesneg yw ein hunig ddewis erbyn hyn. Rwy'n galw ar y cyngor i ailystyried ein hachos o dan bwynt 3.5, mae'r ysgol wedi dweud wrthym na fydd cynyddu maint y dosbarth o un yn niweidiol a gyda’r gynlluniau i gynyddu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn y tymor agos, mae'r meini prawf wedi'u bodloni."

Ychwanegodd Rhieni dros Addysg Gymraeg “Mae angen pwyso ar Gyngor Penybont i gyfiawnhau codi gobeithion rhieni drwy ddatgan darpariaeth newydd ar un llaw a’r styfnigrwydd i fethu â defnyddio rhan o God Mynediad i Ysgolion sydd yno i’w helpu mewn sefyllfaeodd penodol fel hyn. Mae angen rhoi pwysau ar y Gweinidog i fynnu bod Pen-y-bont yn cynyddu addysg Gymraeg o fewn cymunedau a bod y dewis am addysg Gymraeg yn gydradd.”

Dywedodd Luke Fletcher MS "Rwy'n galw ar BCBC i ddefnyddio ei bwerau i sicrhau bod plant sy'n dymuno cael mynediad i addysg Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn gallu gwneud hynny. Ni ddylai rhieni fod anfon eu plant ymhellach i ffwrdd neu gorfod dewis addysg cyfrwng Saesneg."

"Os yw'r Sir am cwrdd ei thargedau fel rhan o strategaeth 2050, mae'n rhaid i'r Cyngor weithredu nawr i ganiatáu i bob cenhedlaeth gael mynediad cyfartal i addysg Gymraeg. Byddaf mewn cysylltiad â'r Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg i fynd ar drywydd y mater hwn."

Mae’r AS dros Gorllewin De Cymru a phreswylydd Pencoed hefyd wedi galw ar Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru a'r Gymraeg i ymyrryd.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Jordan Griffiths
    published this page in Newyddion 2021-10-05 11:42:28 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd