Mae'r Aelod dros Orllewin De Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau ôl-ddiagnostig a sefydlu arsyllfa ddata dementia i gynorthwyo'r rhai sy'n darparu gwasanaethau dementia yng Nghymru.
Rhwng 2007 a 2015, bu cynnydd o 45% mewn pobl â diagnosis o ddementia yng Nghymru, gyda'r cyfanswm diweddaraf yn 22,686 gyda diagnosis wedi'i gadarnhau. Mae'r amcangyfrifon gorau yn gosod y nifer o bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru tua 50,000.
Dywedodd Huw Owen, Swyddog Polisi Cymdeithas Alzheimer, "roedd y pandemig yn torri ar draws gwasanaethau gofal iechyd, sy'n golygu nad oedd llawer o bobl â dementia yn gallu cael diagnosis. Ers mis Mawrth 2020, amcangyfrifir bod 30,000 o ddiagnosis ychwanegol wedi'u colli yn y DU, gan adael pobl yn methu â chael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rydym yn cefnogi'r alwad hon am ymchwil i offer diagnostig cywir a gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn ogystal, os ydych chi'n poeni am eich cof, neu am anwyliaid, ewch i alzheimers.org.uk i ddysgu mwy am ddementia, ei symptomau, a sut i gael diagnosis."
"Fy mhrofiad teulu fy hun gyda Dementia yw'r sbardun y tu ôl i'm cynnig arfaethedig" meddai Luke Fletcher AS. "Cafodd fy mam-gu, Sandra Lewis, ddiagnosis o Lewy Body Dementia, diagnosis a oedd wedi cymryd peth amser i'w gael. Fel pob math o ddementia, mae diagnosis cywir cyn gynted â phosibl yn allweddol i ofal ac ansawdd bywyd unigolyn."
Ychwanegodd Luke Fletcher AS "mae cleifion dementia a gofalwyr wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig coronafeirws ac mae'n rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Rhoddwyd pwysau sylweddol ar y system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod y pandemig ac roedd gofalwyr di-dâl yn arbennig yn allweddol i sicrhau bod y system yn dal i weithredu yn ystod y cyfnod hwn ac mae rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt yn ffordd berffaith o ddangos diolch."
"Roedd Cynllun Gweithredu Dementia 2018-22 yn cynnwys ymrwymiad i wasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, felly rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ariannu ymchwil i ddatblygu offer diagnostig cywir i sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis o ddementia yn gallu cael y cymorth cywir ar unwaith ar ôl cael diagnosis."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter